Ir drych
1 Ni thybiais ddewrdrais ddirdra
2 Na bai deg fwyneb a da
3 Yni synnais yn amlwg
4 Yn y drych llyna vn drwg
5 Yna dywawd i mi or diwedd
6 Y drych nad wyf wych o wedd
7 Melynu am ail luned enid
8 Y mae'r croen mawr yw na'm cred
grudd nid mawr y gwrid
9 [61r][Gwydr yw'r grudd gwedy r griddfan]
10 [a chlais melynlliw achlan]
11 Odid na ellid ellyn
12 O'r trwyn hir truan yw hyn
13 Pand diriaid bod llygaid llon
14 Yn dyllau terydr deillion
15 A'r ffluwch bengrech led echwyrth
16 bob dyrnaid o'i said a syrth
17 Mawr arnaf naid diraidi
18 Y mae'r naill ar fy marn i
19 Ai 'môd yn wifr ar ddifrych
20 Natur drwg ai nad da'r drych
21 Os arnaf gwn naws hirnwyf
22 fu'r bai poed yn farw y bwyf
23 Os ar y drych brych o bryd
24 Y bu'r bai wb o'r bywyd
25 lleuad las gron gwmpas graen
26 llawn o hud llun ehedfaen
27 Hadlyd liw hudol o dlws
28 Hudolion a'i hedeilws
29 Brauddwyd o'r modd ebrwydda
30 Bradwr oer a brawd i'r ia
31 [61v] ffalstaf gwir ddifwynaf gwas
32 fflam fo'r drych mingam iawnmeingas
33 Ni'm gwnaeth neb yn wynebgrych
34 Os gwiw coeliaw draw i'r drych
35 Onid y ferch o wynedd
36 Yno y gwys difwyno ei gwedd
Da' ap Glm'
Nodiadau
Exr per vetust et per alium